Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Undebau Cyfiawnder

16 Mawrth 2016

Ystafell Gynadledda D - Tŷ Hywel

12.30 – 13.30

Noddwyd gan Julie Morgan AC

 

 

Yn bresennol:

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Helen West, Swyddfa Julie Morgan

Nancy Cavill, Swyddfa Julie Morgan

Anne Smyth, Swyddfa Julie Morgan

Emily Cannon, UNSAIN

Penelope Gwilliam

Peter Robinson

Huw Price

 

Ymddiheuriadau:

Tracey Worth

Jane Foulner

 

 

Agenda

12.30 Croeso / Ymddiheuriadau.

 

12.40 Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod diwethaf

          Materion yn codi

 

12.45 Siaradwr - Emily Cannon, Unsain, Preifateiddio’r Gwasanaeth Prawf

 

13.00 Cwestiynau

 

13.10 Sylwadau clo/ Camau i’w cymryd yn dilyn y cyfarfod

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

 

Croeso a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Croesawodd Julie bawb ac ymddiheurodd na allai Tracey a Jane fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw.  Esboniodd Julie fod yr holl gamau a oedd yn deillio o’r cyfarfod diwethaf wedi’u rhoi ar waith, a chytunwyd ar y cofnodion.  Croesawodd Julie Emily Cannon i’r cyfarfod a throsglwyddodd yr awenau iddi hi.

 

 

Prif siaradwr - Emily Cannon, UNSAIN – Preifateiddio’r Gwasanaeth Prawf

 

Cydnabu Emily natur amserol y cyfarfod mewn perthynas â newidiadau i’r gwasanaeth prawf. 

 

Ni all y gwasanaeth prawf gael ei drafod fel un endid mwyach, ers creu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS) a’r Canolfannau Adsefydlu Cymunedol (CRC). 

 

Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn parhau’n rhan o’r sector cyhoeddus fel rhan o’r gwasanaeth sifil, ac mae’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaethau risg uchel ac yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr fel un endid.  Ar hyn o bryd mae newid sefydliadol yn cael ei wneud iddo, y cyfeirir ato fel y ‘Glasbrint E3’.

 

Gwahoddodd UNSAIN bob aelod o staff sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i lenwi holiadur i lywio ymateb parhaus UNSAIN i’r ymgynghoriad E3.

 

Roedd ymateb UNSAIN i’r ymgynghoriad yn cynnwys:

·        Nid yw’r cynnig E3, sef bod yr holl staff i fod â sgiliau lluosog sy’n drosglwyddadwy ar draws timau arbenigol, wedi cael derbyniad da yn gyffredinol ac mae’n ofynnol i ail-ystyried y cynnig.

·        Dylai’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’i undebau llafur drafod Polisi a gweithdrefn Newid Sefydliadol E3.

 

Working Links yw’r cwmni sydd bellach yn berchen ar Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (CRC) sy’n cyflawni oddeutu 75% o’r holl waith prawf ledled Cymru. Bydd talu yn ôl canlyniadau yn golygu newid ffocws ar gyfer gweithwyr.   Ym mis Rhagfyr 2015 amlinellwyd y bydd dwy ganolfan weithredol bellach, yn Abertawe a Chaerdydd, yn ogystal â swyddfa ymylol lai ym Mae Colwyn (i’w rheoli o Gaerdydd).  Ni roddwyd dim gwybodaeth i ddangos sut y byddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y gorllewin neu yng nghanolbarth Cymru.

 

Mae systemau technoleg newydd yn cael eu hystyried, a fyddai’n gofyn am lai o oruchwyliaeth corfforol wyneb yn wyneb a defnyddio systemau fel Skype a negeseuon testun fel dulliau addas eraill o gysylltu.

 

Gwnaed cyhoeddiad ynghylch arbedion effeithlonrwydd o ran staffio, ystadau a TGCh, ac mae ffigur o 40% o arbediad wedi’i gyhoeddi ar gyfer Cymru.  Mae hyn yn cyfateb i 44% o staff cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru, sef 230 o swyddi i gyd.  Yng Nghymru y mae’r toriadau gwaethaf.

 

Dechreuodd proses Diswyddo Gwirfoddol (EVR) ym mis Rhagfyr ar gyfer staff corfforaethol. Nid yw staff yn y maes yn ei gweld fel proses ‘wirfoddol’.

 

Dywedodd Working Links y gallai’r rhaglen ‘drawsnewid ac integreiddio’ hon gymryd hyd at 15 mis i’w chwblhau.

 

Byddai colli swyddi ar y raddfa hon yn golygu y byddai safon adsefydlu troseddwyr a’r gwasanaeth prawf yn gostwng yn ddramatig.

 

Bu erthyglau yn y wasg yn ddiweddar ynghylch newid cynlluniau ac ailwampio’r Setliad Datganoli i Gymru, yn galw am ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru – ond, yn amlwg, bydd hon yn broses hir.  Dylai’r mater o greu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru gael ei flaenoriaethu ar gyfer y Cynulliad newydd gan y byddai’n dwyn ynghyd y Llywodraeth ac asiantaethau perthnasol i drafod, datblygu a gweithredu’r maes hwn o ddatganoli, fel yr argymhellwyd yn Adroddiad Silk, rhan 2.

 

Gwahoddodd Emily sylwadau o’r llawr.

 

Huw Price - Wedi gweithio i’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol

Roedd am gyfleu ei rwystredigaeth, ei ddicter a’r sefyllfa anobeithiol y mae staff y Gwasanaeth Prawf ynddi ar hyn o bryd. Dywedwyd wrthynt am yr arbedion effeithlonrwydd ym mis Tachwedd, ond ni ddangoswyd unrhyw dystiolaeth ffeithiol pam mae angen i wariant gael ei gwtogi. Pwysleisiodd y pwynt fod hon yn sefyllfa anodd i staff. Dywedodd Huw pa mor anodd fu’r sefyllfa ar ei gyfer ef, gan fod ganddo nam ar ei olwg. Nid oedd unrhyw sefydlogrwydd o ran swydd, nid oedd yn gwybod lle y byddai ei swyddfa, felly dewisodd gymryd diswyddiad gwirfoddol.

 

Mae’r uned dysgu a datblygu wedi symud i Middlesborough - rhan o Working Links. 

 

Mae’n credu bod adsefydlu bellach yn endid i wneud elw, oherwydd y targed ‘taliad drwy canlyniad’ newydd, a’r ffordd y mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru bellach yn gweithredu ar sail angen cyson i gyrraedd targedau.

 

Bydd y canolfannau gweithredol fel canolfannau galw yn y pen draw. Maent y tu allan i’r gwasanaeth ar y rheng flaen.

 

Mae swyddogion prawf a swyddogion adsefydlu yn cael eu gorfodi i weithio mewn festri eglwys, neuaddau cymunedol, swyddfeydd cynllun agored. Nid oes dim diogelwch na phreifatrwydd i droseddwr nac i staff.

 

Mae cyfiawnder a chyflogadwyedd wedi cael eu cyfuno i un swydd yn hytrach na dwy swydd.  Nid oes adnoddau bellach ar gael ar gyfer hyfforddiant.

 

Penelope Gwilliam, Cyd-Gadeirydd NAPO Cymru (yn gweithio i’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol)

Cytunodd Penelope â phopeth a ddywedodd Emily a Huw.

 

Mae’r newidiadau i’r gwasanaeth prawf yn cael eu datgelu mewn ffordd dameidiog.

 

Mae Working Links yn Lloegr yn wynebu toriadau ychydig yn llai na 40% - felly Cymru sy’n dioddef fwyaf. Gall golli 250 o staff.

 

Nid oes dim gwybodaeth am ble y bydd swyddi gwasanaethau corfforaethol yn cael eu lleoli.

 

Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn ymdrin â throseddwyr risg isel a chanolig, ac mae rhai yn cyflawni rhagor o droseddau difrifol.  Yn gyffredinol, gwelir mwy o aildroseddu yn y categorïau hyn, felly mae’n achos pryder y gallai newidiadau a wneir i’r Gwasanaeth Prawf arwain at gynnydd pellach yn niferoedd y troseddwyr hyn. Awgrymwyd y dylai’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd gomisiynu gwasanaethau.

 

Mae ymgysylltu â’r troseddwr yn hanfodol i atal ymddygiad drwg ac aildroseddu.  Ni fydd galwadau ffôn na negeseuon testun i droseddwyr yn gweithio yn yr un ffordd.

 

Nid yw diwylliant ac amrywiaeth Cymru yn cael ei adlewyrchu yn y newidiadau.  Ni ellir ymgysylltu â’r gymuned mor rhwydd yma.

 

Nid yw’r Cynulliad a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnwys, ond mae’n bwysig eu bod yn cael eu cynnwys.

 

Julie

Mynegodd Julie ei chefnogaeth i ddatganoli’r system prawf a chyfiawnder i Gymru, ond roedd yn bryderus am yr hyn a fyddai gennym ar ôl datganoli’r gwasanaethau hyn.  Roedd y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru yn llwyddiannus iawn, felly nid oedd angen newid.  Dywedodd Julie mai newidiadau ideolegol oedd yn gyfrifol am hyn.  Roedd Julie wedi cael ei synnu ynglŷn ag anfon negeseuon testun i droseddwyr. Soniodd am broblemau gyda signal mewn rhai mannau, a throseddwyr a fyddai efallai’n gwerthu eu ffonau i brynu cyffuriau ac ati.

 

 

Peter Robinson

Eglurodd Peter, os ydych yn cyfathrebu â throseddwr dros y ffôn / drwy neges destun nad ydych yn gwybod sut y maent yn edrych, felly ni allwch fod yn sicr mai’r person sy’n ymddangos ar gyfer cyfarfodydd / lleoliadau yw’r troseddwyr eu hunain.

 

Dywedodd hefyd na allwch weld a yw pobl yn defnyddio cyffuriau, yn hunan niweidio ac ati, dros y ffôn neu drwy neges destun. Dim ond drwy gyfarfod wyneb yn wyneb y gellir barnu yn hyn o beth.

 

Huw Price

Nid yw Working Links yn gwybod beth yw’r darlun mawr eto, er mai’r sefydliad hwnnw sy’n ei weithredu.

 

Os nad ydym yn rhyngweithio’n llawn â throseddwyr, ni ellir ceisio eu newid.

 

Julie

Nid yw Cymru’n cael ei chydnabod fel endid dilys.

 

Gofynnodd beth yw’r goblygiadau ar gyfer yr Iaith Gymraeg.  Amlygwyd Strategaeth y Gymraeg.

 

Penelope

Anfonwyd llawer o lythyrau uniaith Saesneg yn ddiweddar.  Mae diffyg dwyieithrwydd wedi cael ei nodi yn rheolaidd.

 

Emily

Nid yw Working Links, sy’n gweithio yn Saesneg, yn cymryd i ystyriaeth y defnydd o’r iaith Gymraeg yng Nghymru.

 

Huw

Amlygwyd eto bod rhanbarthau Canolbarth a Gorllewin Cymru fwy neu lai wedi’u gadael allan o’r model newydd o Wasanaeth Prawf yng Nghymru.

 

Penelope

Rhybuddiodd y bydd rhywbeth difrifol yn digwydd cyn hir a fydd yn tynnu sylw at wendidau’r system newydd.

 

Julie

Gwnaeth Julie ddatganiad bod hwn wedi bod yn gyfarfod llwyddiannus iawn ac mae’r mater hwn yn sicr yn fater y dylid gweithredu yn ei gylch yn y Cynulliad nesaf.

 

Diolchodd Julie i bawb am fod yn bresennol, a daeth â’r cyfarfod i ben.